Hafan

Rhaglen 2010

Lleoliadau

  Gŵyl Gŵyr

Cerddoriaeth ar gyfer noson haf ....

Tocynnau

Ffrindiau

Cysylltwch â ni

Dolenni

ENGLISH

Mae Gŵyl Gŵyr yn gymysgiad arbennig o gerddoriaeth bendigedig, eglwysi hyfryd a nosweithiau'r haf.

Dylai pawb sy'n hoffi gerddoriaeth ac sy'n edrych am wyliau yn ystod y ddwy wythnos olaf o fis Gorffenaf meddwl am ymweld â'r Ŵyl .

Mae Penrhyn Gŵyr yn lle hudol, eithaf debyg i'r "Shire" o Tolkien, ond mae gan Penrhyn Gŵyr y môr hefyd. Dynododd Penrhyn Gŵyr yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB) gyntaf ym Mhrydain yn 1956.  Gyda chlogwyni ysgithrog, traethau hardd a phyllau glan môr, mae'n ardal rhyfeddol am wyliau.  Brithir ei gefn wlad dawel werdd ag eglwysi hynafol ac y mae rhain yn ychwanegu dirgelwch a swyn.  Y mae gan llawer ohoni gwreiddiau cyn-Normainiadd ac enwau'r hen seintiau Celtaidd, fel Teilo, Cattwg ac Illtyd i'w gwarchod rhag môr-ladron.

Am dros fwy na chwarter canrif, mae'r ffrindiau'r Ŵyl a'r ymwelwyr wedi mwynhau'r gerddorieath amrywiol hon yn ystod y ddwy wythnos olaf o fis orffenaf, yn cymryd cyfle yn ystod yr egwyl i wrando ar swn y môr, i gwrdd a ffrindiau newydd ac i flasu gwydr o win.

Bob blwyddyn am ddwy wythnos, mae Gŵyl Gŵyr yn dod â'r gerddoriarth gorau i eglwysi Cymru.   Mae mwyafrif o'r cyngherddau yn fach ac yn agos - perfformiadau gan unawdwyr a grwpiau bychain - ond mae cyngherddau mwy yn yr eglwysi mawr hefyd, sy'n cynnwys gweithiau corawl yn arbennig.

Yr ydym yn estyn croeso cynnes iawn i bawb ymuno â ni yn ystod yr Ŵyl .

Mae Gŵyl Gŵyr yn aelod o Wyliau Cymru, sy'n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Bwrdd Croeso Cymru i hyrwyddo gwyliau dros Gymru